Y senedd
Fe fydd yr helynt tros ffrind yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, yn debyg o gyflymu’r broses o gael cofrestr swyddogol o lobïwyr proffesiynol.
Ac fe ddywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Syr George Young, y byddai’r Prif Weinidog yn cadw at ei addewid i gyhoeddi manylion cyfarfodydd rhwng Adam Werritty a gweinidogion eraill.
Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, oedd un o’r rhai’n pwyso ar Syr George i drefnu dadl yn y Senedd am y mater.
Honiadau ‘dychrynllyd’
Yn ogystal â’r amheuon am Liam Fox roedd yn mynnu fod angen ymchwiliad i waith lobïwyr hefyd, ar ôl honiadau gan y BBC mai criw o bobol fusnes asgell dde cyfoethog oedd wedi bod yn talu i Adam Werritty fynd ar deithiau tramor gyda’r Ysgrifennydd Amddiffyn.
Roedd yr honiadau’n “ddychryllyd”, meddai, “fod lobïwyr amlwg, yn cynrychioli safbwyntiau eithafol, wedi talu i unigolyn, nad oedd wedi’i gofrestru’n lobïwr, nad oedd wedi cofrestru unrhyw fuddiannau, nad oedd wedi bod trwy fesurau diogelwch, ond wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ucha’ yn y wlad hon”.
Ond roedd y Llywodraeth Lafur ddiwetha’ wedi gwrthod cyngor i sefydlu cofestr o lobïwyr, meddai Syr George, cyn addo y byddai Llywodraeth y Glymblaid yn gwneud hynny.
Cameron – dim sacio ar hyn o bryd
Heddiw hefyd fe ddywedodd Prif Weinidog Prydain y byddai’n “wan” i roi’r sac i’r Ysgrifennydd Amddiffyn ar hyn o bryd.
Roedd rhaid aros am ganlyniadau’r ymchwiliad i’r helynt cyn gweithredu, meddai David Cameron, sy’n mynnu bod Liam Fox yn “gwneud gwaith ardderchog”.