Mae Ofcom wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cyflwyno rheolau newydd i ddiogelu pobol sy’n cymryd rhan mewn sioeau teledu a radio, a sicrhau eu bod nhw’n cael y gofal priodol gan ddarlledwyr.

Dywedodd y rheoleiddiwr y bydd yn cyflwyno dwy reol newydd i’r Cod Darlledu a fydd yn diogelu lles y rhai sy’n cymryd rhan mewn sioeau realiti, dogfennau, rhaglenni newyddion a materion cyfoes, rhaglenni cwis, cystadlaethau talent a ffurfiau eraill o raglenni ffeithiol ac adloniant. Ond ni fydd yn cynnwys dramâu, operâu sebon a rhaglenni comedi.

Fe fydd Ofcom yn cynnig canllawiau i helpu darlledwyr i weithredu’r rheolau newydd ac mae wedi eu gwahodd i gynnig adborth cyn cyhoeddi penderfyniad terfynol yn y gaeaf.

Daw’r rheolau newydd yn dilyn cyfres o gwynion i Ofcom ynglŷn â rhaglenni fel Celebrity Big Brother a Love Island y llynedd.

Roedd marwolaethau dau o gyn-gystadleuwyr y gyfres ar ITV, Sophie Gradon a Mike Thalassitis, wedi arwain at ragor o sylw i’r gofal sy’n cael ei roi i gystadleuwyr ar ôl i’r gyfres ddod i ben.

Mae’r darlledwr wedi cyhoeddi ei fod wedi gwella’r gofal sy’n cael ei roi wedi’r sioe, gan gynnwys sesiynau therapi.

Cafodd y Jeremy Kyle Show ei sgrapio yn dilyn marwolaeth un o’r cyfranwyr Steve Dymond. Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi lansio ymchwiliad i deledu realiti.