Mae’r cwmni sy’n berchen Vauxhall wedi dweud y bydd yn cau ei ffatri yn Ellesmere Port os yw’n llai proffidiol wedi Brexit.

Dywedodd prif weithredwr PSA, Carlos Tavares, y byddai’n adeiladu ceir Vauxhall Astra ac Opel Astra yn ne Ewrop os nad yw gwledydd Prydain yn sicrhau cytundeb boddhaol wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Byddai’n well gen i ei roi [y car Astra] yn Ellesmere Port ond os yw’r amodau yn wael a dw i ddim yn gallu ei wneud yn broffidiol yna fe fydd yn rhaid i fi ddiogelu gweddill y cwmni,” meddai Carlos Tavares wrth y Financial Times.

“Mae gynnon ni [safle] amgen i Ellesmere Port.”

Daw’r rhybudd ar ôl i Gymdeithas y Gwneuthurwyr a Gwerthwyr Cerbydau rybuddio Boris Johnson ddydd Gwener y byddai Brexit heb gytundeb yn “fygythiad” i’r diwydiant.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyflymu’r paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. Ddydd Sul, roedd Boris Johnson wedi sefydlu rhwydwaith o bwyllgorau er mwyn sicrhau bod Brexit yn cael ei gwblhau erbyn Hydref 31.

Fe fydd y pwyllgor yn cael ei gadeirio gan weinidog Swyddfa’r Cabinet Michael Gove a bydd yn cwrdd bob dydd yn ystod yr wythnos ac yn goruchwylio holl baratoadau’r Llywodraeth wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y pwyllgor yn cwrdd am y tro cyntaf ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog hefyd gadeirio Pwyllgor Gadael, Economi a Masnach a fydd yn cwrdd yn rheolaidd.

Yn ôl adroddiadau yn y Daily Telegraph, mae Boris Johnson yn bwriadu lansio’r ymgyrch hysbysebu mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd er mwyn paratoi gwledydd Prydain ar gyfer Brexit heb gytundeb.