Cafodd yr heddlu eu galw i briffordd yn Hampshire bnawn heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 26) ar ôl i forfil plastig gael ei ddarganfod ar y lôn.

Fe bostiodd Heddlu Ffyrdd Hampshire lun o’r orca plastig oedd wedi glanio ar yr M27 ger Fernham, ar Twitter, a’i enwi yn Kevin.

“Wel, rydym wedi cael rhai galwadau diddorol am bethau wedi malu ar y draffordd yn y gorffennol … ond byth morfil plastig,” meddai’r heddlu.

“Gall unrhyw un sy’n chwilio am eu morfil fod yn dawel eu meddwl, am ei fod yn ddiogel erbyn hyn yng Ngorsaf Heddlu Havant.”