Mae ’na alw ar archfarchnadoedd i wneud mwy i fynd i’r afael a gordewdra, yn ôl astudiaeth.

Yn ôl adroddiad gan y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus (RSPH) a Slimming World mae archfarchnadoedd yn defnyddio tactegau marchnata i hybu gwerthiant o fwydydd afiach.

Mae mwy na thraean o siopwyr (36%) yn prynu nwyddau afiach ar hap am fod cynnig arbennig, yn ôl yr astudiaeth, ac mae un ymhob pump o archfarchnadoedd yn achosi iddyn nhw wyro oddi wrth eu hymdrechion i golli pwysau.

Roedd arolwg o archfarchnadoedd llai a rhai lleol wedi darganfod bod nwyddau afiach fel melysion a chreision wedi cael eu rhoi mewn mannau mwy amlwg yn y siopau gan gynnwys wrth ymyl y til.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymellion, gan gynnwys rhoi mwy o le ar y silffoedd ar gyfer nwyddau iach, cardiau ryseitiau a dosbarthiadau coginio yn dangos i bobl sut i greu prydau iach.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus bod gan archfarchnadoedd “y gallu i ddylanwadu, yn ogystal â’r cyfrifoldeb, i fynd i’r afael a’r awyrgylch sy’n cyfrannu at ordewdra” a bod llawer mwy y gallen nhw wneud i hybu dewisiadau mwy iach.