Mae dros £60bn wedi ei dynnu allan o gynlluniau pensiynau “platiau aur” dros y tair blynedd diwethaf, yn ôl canlyniafau ymchwil.

Mae’r potiau pensiynau hyn yn ddibynnol ar gyflog terfynol neu gyfartaledd dros yrfa gyfan, ac maen nhw’n aml yn cael eu disgrifio fel rhai “aur” am eu bod yn addo lefel incwm arbennig i bobol wrth ymddeol.

Mae tua 390,000 o drosglwyddiadau wedi cael eu gwneud allan o gyfrifon banc sydd â’r cynlluniau hyn, yn ôl Royal London.

Yn wahanol i gynlluniau pensiynau hyblyg, dydi’r cynlluniau hyn ddim yn rhoi rhyddid pensiwn sy’n galluogi i bobol dros 55 gael mwy o hyblygrwydd ar sut maen nhw’n defnyddio eu potiau pensiwn.