Fe ddylai plant ysgol gael eu haddysgu am ddelwedd bositif o’r corff, yn ôl y blaid Lafur, wrth i arbenigwyr dynnu sylw at y cynnydd sydd yn nifer y bobol ifanc sydd ddim yn hyderus ynghylch eu cyrff.

Yn ôl gweinidog iechyd yr wrthblaid yn San Steffan, Sharon Hodgson, fe ddylai ysgolion wneud mwy i ddysgu plant ynglŷn â delwedd cyrff positif.

Daw hyn wrth i Aelodau Seneddol glywed am gynrychiolaeth “afrealistig” rhaglenni fel Love Island ar ITV yn ystod trafodaeth ar ddelwedd cyrff ac iechyd meddwl.

Yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 23) dywedodd ei bod hi bellach “yn glir bod addysgu plant ifanc ynglŷn â’u cyrff yn gam pwysig i godi eu hyder”.

“Felly a oes gan y Llywodraeth gynlluniau i sicrhau bod ysgolion yn ymdrin â phryderon delwedd y corff fel rhan o gyflwyniad addysg rhyw a pherthynas orfodol yn 2020?” meddai.

“Mae angen gwneud mwy i hyrwyddo delwedd corff iach ac iechyd meddwl da ymhlith ein pobol ifanc.”

Mae’r gweinidog iechyd Jackie Doyle-Price – sy’n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yn Lloegr – wedi cydnabod fod angen ymgyrch i roi syniad mwy realistig o ddelwedd y corff i bobol, a dywedodd y gall delweddau “afrealistig” ar y teledu fod yn niweidiol.