Mae Jo Swinson wedi cael ei hethol fel arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl trechu Syr Ed Davey yn y gystadleuaeth i olynu Syr Vince Cable.

Y cyn-weinidog oedd y ffefryn o’r dechrau i gymryd yr awenau fel yr arweinydd newydd ac mae’n golygu mae hi yw’r fenyw gyntaf i arwain y blaid.

Mae Jo Swinson, sy’n Aelod Seneddol dros Ddwyrain Swydd Dunbarton, wedi bod yn ddirprwy i Syr Vince Cable ers Mehefin 2017.

Fe lwyddodd hi i ennill llawer o gefnogaeth gan ei phlaid wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol fwynhau adfywiad oherwydd eu gwrthwynebiad clir i Brexit.

Mae gan y blaid 12 o Aelodau Seneddol. Fe ymunodd Chuka Umunna a’r blaid fis diwethaf, ac fe ddaeth yn ail yn etholiadau Ewrop gan ennill 20% o’r bleidlais.

Mae Jo Swinson wedi awgrymu, os yw Boris Johnson yn dod yn Brif Weinidog ac yn sicrhau Brexit heb neu gyda chytundeb, y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cryfhau eto.