Mae cyn-wirfoddolwr gyda’r elusen plant NSPCC yn wynebu cyfnod hir yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o ddweud celwydd am “gylch pedoffiliaid” San Steffan.

Roedd Carl Beech, 51, wedi gwneud cyhuddiadau difrifol yn erbyn nifer o ffigurau blaenllaw gan honni eu bod mewn “cylch sefydliadol” – oedd yn cynnwys gwleidyddion a chyn-aelodau o’r fyddin.

Dywedodd Carl Beech wrth yr heddlu ei fod wedi dioddef ymosodiadau rhywiol gan aelodau o’r “cylch” gan honni eu bod wedi cipio, treisio a lladd bechgyn ifanc yn y 1970au a’r 1980au.

Roedd yr honiadau wedi arwain at ymchwiliad gan heddlu Scotland Yard a gostiodd £2m ac sydd bellach wedi dod i ben heb i un person gael eu harestio.

Yn dilyn honiadau Carl Beech roedd yr heddlu wedi cynnal cyrch ar gartref y cyn-filwr, yr Arglwydd Bramall, 91 oed, ac wedi cynnal ymchwiliad i’r diweddar Arglwydd Brittan a’r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Harvey Proctor.

Cafodd y cyn-Brif Weinidog Syr Edward Heath, Jimmy Savile, pennaeth MI5, Syr Michael Hanley, a phennaeth M16, Syr Maurice Oldfield eu henwi fel rhai oedd yn y “cylch” hefyd.

Yn Llys y Goron Newcastle heddiw cafwyd Carl Beech, oedd yn gyn-reolwr gyda’r Gwasanaeth Iechyd, yn euog o 12 achos o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac un achos o dwyll, sy’n ymwneud a iawndal o £22,000 a gafodd ar ôl honni iddo gael ei dreisio gan Jimmy Savile. Bydd yn gorfod ad-dalu’r arian.

Dywedodd yr erlyniad bod Carl Beech ei hun yn bedoffeil gyda diddordeb mewn bechgyn ifanc. Roedd disgwyl iddo sefyll ei brawf y llynedd yn sgil cyhuddiad o fod a delweddau anweddus yn ei feddiant a chyhuddiad o voyeuriaeth ond roedd wedi mynd ar ffo yn Sweden.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ddydd Gwener.