Fflat Joanna Yeates Llun: This is Bristol
Mae’r rheithgor yn achos llofruddiaeth Joanna Yeates wedi ymweld â’i fflat heddiw.

Mae ei fflat wedi ei gadw yn union fel yr oedd pan gafodd ei lladd ar 17 Rhagfyr y llynedd.

Bu Mr Ustus Field yn helpu’r rheithgor i ddilyn ôl troed Joanna Yeates drwy ardal Clifton ym Mryste ar ei ffordd yn ôl i’w fflat.

Bu’r rheithgor hefyd yn ymweld â fflat y diffynnydd Vincent Tabak cyn treulio 22 munud yng nghartref Joanna Yeates drws nesaf.

Roedd cariad Joanna, Greg Reardon wedi dychwelyd i’r fflat i nôl ei ddillad a’i eiddo, ond clywodd y rheithgor bod dillad, eiddo a dodrefn Joanna Yeates wedi cael eu gadael yno. Roedd na arwyddion yn y fflat bod yr heddlu wedi bod yn casglu tystiolaeth.

Cyn iddyn nhw ymweld â’r fflat yn Canynge Road, cafodd y rheithgor eu cludo  mewn bws i Park Street lle dechreuodd noson Joanna Yeates.

Roedd yr heddlu wedi cau’r stryd fel bod y rheithgor yn gallu gweld swyddfa BDP lle roedd hi’n gweithio, cyn aros tu allan i dafarn y Bristol Ram lle roedd hi wedi cwrdd â ffrindiau.

Ar ôl gadael y bws, fe fu’r rheithgor wedyn yn cerdded drwy pentref Clifton ac i Tesco Express lle roedd Joanna Yeates wedi prynu pizza, a shop arall i brynu seidr. Fe gawson nhw wedyn eu harwain i lawr y llwybr cul i gartref Joanna Yeates.

Roedd Joanna Yeates wedi dioddef 43 o anafiadau ar ôl i Tabak ymosod arni yn ei  fflat, yn ôl yr erlyniad. Dywedir iddi gael marwolaeth araf a phoenus.

Roedd cyfreithiwr Tabak, William Clegg QC wedi gofyn i’r rheithgor ystyried sawl peth yn ystod yr ymweliad. Roedd am iddyn nhw ystyried faint o amser fyddai’n ei gymryd i gerdded o dafarn yr Hophouse i gartref Joanna Yeates. A gofynnodd iddyn nhw ystyried yr olygfa o ffenest y gegin yn ei fflat.

Bu’r  rheithgor hefyd yn ymweld â’r safle lle chafodd ei chorff ei ddarganfod ar Ddydd Nadolig.

Mae Tabak, 33, peiriannydd o’r Iseldiroedd wedi cyfaddef i ddynladdiad ond yn gwadu llofruddiaeth.

Fe fydd y rheithgor yn dychwelyd i Lys y Goron Bryste yfory.