Mae unigolion wedi hacio gwefan a thudalen Twitter Heddlu Llundain wrth iddyn nhw alw am ryddhau rapiwr o’r ddalfa.

Cafodd cyfres o negeseuon eu hanfon o’r dudalen Twitter neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 19), yn galw am ryddhau Digga D.

Mae’r negeseuon wedi cael eu dileu erbyn hyn, ac mae’r heddlu’n dweud bod yr hacio wedi effeithio eu tudalennau newyddion a datganiadau i’r wasg yn unig.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu’n adolygu eu mesurau diogelwch ar y we.

Digga D

Cafodd y rapiwr Digga D – neu Rhys Herbert, sy’n 17 oed – ei garcharu ynghyd â phedwar o bobol eraill y llynedd, ar ôl iddyn nhw gael eu canfod â batiau pêl fas a machetes.

Cafodd Rhys Herbert ei garcharu am 12 mis ar ôl cyfaddef cynllwynio i achosi anhrefn dreisgar a bod ag arf yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.

Mae gan ei fand nifer o ganeuon sydd â geiriau treisgar, ac maen nhw wedi eu cyhoeddi ar YouTube.

Mae’r genre o gerddoriaeth yn cael ei gysylltu â chynnydd mewn achosion o drais yn Llundain ond fel rhan o garcharu’r criw, maen nhw wedi’u gwahardd rhag creu cerddoriaeth ag iddyn nhw eiriau treisgar.

Mae’r heddlu wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra i ddefnyddwr y wefan.