Gweinidog yn galw ar “bawb” i wrthwynebu eithafiaeth

 
Sajid Javid

Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Cartref

Llun oddi ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig

“Mae gan bawb rôl i’w gyflawni” er mwyn mynd i’r afael ag eithafiaeth ac agweddau negyddol tuag at fewnfudwyr.

Dyna fydd yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, yn ei ddweud wrth annerch elusennau ac academyddion yn ddiweddarach.

Mae’r gweinidog yn pryderu bod eithafwyr – boed yn Islamaidd, o’r dde, neu o’r chwith –  yn ceisio creu “holltau” ac yn ymdrechu i “danseilio’r” Deyrnas Unedig.

Ac yn siarad nes ymlaen mi fydd yn galw ar bawb, ar bob rheng o gymdeithas, i wrthwynebu’r daliadau yma.  

“Y cryfder i weithredu”

“Os ydyn ni eisiau stopio eithafiaeth, rhaid i ni fod yn ddigon dewr i fynd i’r afael â hi,” bydd Sajid Javid yn ei ddweud.

“Rhaid cael y cryfder i weithredu, a rhaid meddwl yn gall er mwyn mynd i’r afael â’r hyn sy’n ei achosi. Mae’r ffordd rydym yn trafod gyda’n gilydd yn caledu ac yn troi’n llai adeiladol.

“Mae gan bawb rôl i’w gyflawni: darlledwyr trwy beidio â rhoi platfform i eithafwyr, heddlu trwy gael gafael ar y troseddwyr gwaethaf, a ffigyrau cyhoeddus trwy ddefnyddio iaith sy’n fwy cymedrol.”

Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones