Mae disgwyl i aelodau’r Blaid Lafur yn Nhŷ’r Arglwyddi gynnal cyfarfod brys yr wythnos nesaf er mwyn ystyried cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn Jeremy Corbyn.

Daw’r cam ar ôl i aelod o fainc flaen y blaid yn ail dŷ’r Senedd gael ei diswyddo yn sgil sylwadau a wnaeth yn cymharu arweinyddiaeth Jeremy Corbyn â “dyddiau olaf Hitler”.

Mae ffynhonnell wedi dweud wrth wasanaeth newyddion y Press Association fod yr Arglwyddi yn bwriadu cyfarfod ddydd Llun (Gorffennaf 22).

Er nad yw’r cynnig o ddiffyg hyder yn un gorfodol, byddai ei gymeradwyo yn cynyddu’r pwysau ar arweinyddiaeth y Blaid Lafur sydd dan y lach yn ddiweddar am ei hymdriniaeth o honiadau o wrth-Semitiaeth.

Sylwadau’r Fonesig

Cafodd y Fonesig Dianne Hayter ei diswyddo o’i rôl yn weinidog Brexit cysgodol ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 17), ond mi fydd yn parhau’n arweinydd y Blaid Lafur yn Nhŷ’r Arglwyddi – gan fod y rôl honno’n un etholedig.

Collodd hi ei swydd ar ôl annerch un o grwpiau’r blaid, Labour First, yn cyhuddo cyfeillion agosaf Jeremy Corbyn o beidio â rhannu gwybodaeth ag uwch-swyddogion eraill – gan eu cymharu â “chylch dethol” Adolf Hitler.

Wrth gyhoeddi’r diswyddiad, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur fod y sylwadau yn rhai “hynod sarhaus” ac “ofnadwy o ansensitif”.