Roedd mwy o droseddau cyllyll nag erioed o’r blaen yng Nghymru a Lloegr y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi.

Roedd cynnydd o 8% yn 2018-19 o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.

Cafodd 43,516 o droseddau â chyllyll eu cofnodi hyd at fis Mawrth eleni, y nifer fwyaf ers i gofnodion gael eu creu am y tro cyntaf yn 2011.

Ond dydy ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol ddim yn cynnwys ardal Heddlu Manceinion, sy’n cofnodi ystadegau ar wahân.

Roedd cynnydd o 3,301 o droseddau cyllyll o’i gymharu â 2017-18, a chynnydd o 42% ers mis Mawrth 2011.

Roedd cynnydd hefyd o 693 i 701 o achosion o ladd rhwng 2017-18 a 2018-19, ond dydy hynny ddim yn cynnwys ymosodiadau brawychol.

Cymru

Yn Suffolk roedd y cynnydd mwyaf o ran canrannau (51%) drwy wledydd Prydain.

Yng Nghymru, roedd Dyfed-Powys yn drydydd ar y rhestr gyda chynnydd o 49%.

Roedd cynnydd o 26% yng Ngwent, 19% yn y De, a 4% yn unig yn y Gogledd.