Mae brawd Salman Abedi, yr hunan-fomiwr oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad brawychol ar Arena Manceinion yn 2017, yn cael ei estraddodi o Libya i wledydd Prydain, yn ôl adroddiadau.

Cafodd Hashem Abedi ei arestio yn Libya yn fuan ar ôl yr ymosodiad ym mis Mai 2017, pan gafodd 22 o bobol eu lladd ar noson cyngerdd Ariana Grande.

Cyflwynodd awdurdodau Prydain gais i’w estraddodi fis Tachwedd 2017, ac mae Heddlu Manceinion yn awyddus i’w arestio ar amheuaeth o lofruddio, ceisio llofruddio ac o gynllwynio i achosi ffrwydrad.

Mae llefarydd ar ran awdurdodau Libya wedi cadarnhau ei fod e’n cael ei gludo i wledydd Prydain, ac mae Sajid Javid, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, yn dweud ei fod e bellach wedi glanio.