Mae cyn-bartner dynes feichiog 26 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o’i llofruddio hi ac o ddynladdiad ei babi.

Mae ei chyn-bartner, Aaron McKenzie, sy’n 25 oed, yn derbyn cyfrifoldeb am ei marwolaeth hi a Riley, ei mab, a fu farw yn yr ysbyty yn bedwar diwrnod oed.

Aeth e gerbron llys yr Old Bailey heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 17), ac mae e hefyd wedi’i gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant.

Mae adroddiadau seiciatryddol yn cael eu paratoi, ac fe fydd gwrandawiad pellach ar Hydref 2.

Y disgwyl yw y bydd yr achos llys yn dechrau ar Ragfyr 2, ac mae e wedi’i gadw yn y ddalfa yn y cyfamser.

Cefndir

Cafodd Kelly Mary Fauvrelle ei thrywanu yn ei hystafell wely yn ne Llundain ar Fehefin 29.

Roedd ei theulu i gyd yn y tŷ ar y pryd.

Clywson nhw hi’n bloeddio o’i hystafell wely am oddeutu 3.30yb.