Mae’r hystingau olaf i benderfynu pwy fydd arweinydd newydd y Torïaid, a Prif Weinidog gwledydd Prydain, yn cael ei gynnal heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 17).

Dyma gymal olaf yr ymgyrch wrth i’r ddau ymgeisydd, Boris Johnson a Jeremy Hunt, baratoi i osod eu prif weledigaethau.

Daw’r hystingau wrth i Brexit barhau i ddominyddu’r frwydr i gyrraedd Downing Street.

Wrth i’r ddau ymgeisydd baratoi i gyflwyno eu blaenoriaethau i’r cyhoedd unwaith eto, mae Amber Rudd, aelod o Gabinet Llywodraeth Prydain, yn mynnu nad oes gan yr un ohonyn nhw’r gallu i gynnig rhywbeth newydd ar gytundeb ymadael gwledydd Prydain â’r Undeb Ewropeaidd.

Amber Rudd wedi’i “syfrdanu”

Yn ôl Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, sy’n cefnogi Jeremy Hunt, mae hi wedi’i “syfrdanu” gyda’i safbwyntiau yntau a Boris Johnson ar adael yr Undeb Ewropeaidd ar ôl y ddadl nos Lun (Gorffennaf 15).

“Cefais fy synnu gan yr hyn a ddywedodd y ddau ohonynt, a chredaf y bydd eu barn yn gwrthdaro â’r realiti pan fydd yr enillydd yn dechrau trafod ac yn dechrau delio â’r Senedd,” meddai Amber Rudd.

“Mae llawer o bethau anhysbys i’w datrys cyn i ni gyrraedd diwedd mis Hydref.”

Yn ôl The Times, mae Boris Johnson yn dymuno cael etholiad cyffredinol “tra bod Jeremy Corbyn yn dal o gwmpas.”

Dywed y papur fod tîm Boris Johnson yn cynllwynio i ail-wampio’r Torïaid drwyddi draws pe bai Jeremy Hunt yn fuddugol.