Mae dros hanner miliwn o drwyddedau gyrru, a all fod yn angenrheidiol i yrru dramor ar ôl Brexit, wedi cael eu prynu ers mis Chwefror, yn ôl ffigurau llywodraeth gwledydd Prydain.

Dros y pum mis diwethaf, mae 584,000 o Drwyddedau Gyrru Rhyngwladol wedi cael eu gwerthu am £5.50 yr un, ac mae disgwyl i’r gwariant groesi £3.2m.

Mae’r cwmni gwasanaethau ffordd RAC yn disgrifio’r galw yn “hollol syfrdanol” ac yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod swyddfeydd post yn barod am “ymchwydd sydyn” cyn Hydref 31, pan mae gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae trwyddedau gyrru gan yr Undeb Ewropeaidd yn dweud eu bod yn gymwys ar gyfer teithio o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd – sef yr Undeb Ewropeaidd, Gwlad yr Ia, Liechtenstein a Norwy.

Fe fydd posibilrwydd y bydd angen Trwyddedau Gyrru Rhyngwladol i yrru yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd os oes Brexit heb gytundeb.

Dyma’r nifer o’r trwyddedau sydd wedi’u cyhoeddi ers mis Chwefror:

– Chwefror 65,923

– Mawrth 282,398

– Ebrill 163,274

– Mai 43,555

– Mehefin 28,570