Dydi’r gofal mae henoed mewn achosion troseddol gan yr heddlu ac erlynwyr “ddim yn ddigon da” mewn hanner yr achosion sydd wedi cael eu harchwilio.

Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a Gwasanaethau Tân ac Achub ac Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi wedi edrych ar ddioddefwyr troseddau dros 60 oed am y tro cyntaf.

Yn ôl yr adroddiad sy’n cael ei ryddhau heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 17) doedd gofal ddim yn ddigonol mewn 101 o 192 o achosion gafodd eu hastudio.

Dim ond mewn 97 o’r achosion y cydymffurfiwyd â’r Cod Dioddefwyr, dogfen sy’n nodi’r wybodaeth a’r gwasanaethau y mae gan ddioddefwyr hawl iddynt.

Mae’r ymchwilwyr hefyd wedi canfod 153 o achosion lle dylai’r heddlu fod wedi gwneud atgyfeiriad diogelu i’r cyngor lleol, ond ni ddigwyddodd hyn mewn tua hanner, 77, o’r digwyddiadau.

“Nid oes dealltwriaeth dda o droseddu yn erbyn pobl hŷn, er gwaethaf bregusrwydd pobl hŷn a’r pwysigrwydd y mae cymdeithas yn ei roi i ofalu am bobl yn eu henaint,” meddai’r adroddiad.

“Prin fu’r dadansoddiad heddlu o’r broblem, gan gynnwys y cysylltiadau â throseddau casineb anabledd a cham-drin domestig.

“Dim ond dealltwriaeth arwynebol oedd gan heddluoedd o’r problemau, er bod pawb wedi cydnabod bod twyll yn bryder cynyddol gyffredin i ddioddefwyr hŷn.”