Mae angen cynllun deng mlynedd ar wledydd Prydain er mwyn troi at system o ffermio a chynhyrchu bwyd cynaliadwy, yn ôl adroddiad.

Wrth i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd, dylai bod newidiadau mawr mewn ffermio erbyn 2030 i gyfeiriad mwy ecolegol gyda mwy o gynhyrchu bwyd organig, bwydo ar borfa, a mwy o ddefnydd o goed.

Er mwyn gwneud hyn mae angen mwy o gefnogaeth y llywodraeth i sicrhau bod bwyd iach yn cael eu cynhyrchu, yn ôl Dywedodd Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad RSA, dan arweiniad cadeirydd Comisiwn Barclay, Ian Cheshire.

Mae’r Comisiwn yn credu y dylai brwdfrydedd pobol ifanc i fynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol a hinsawdd drwy “wasanaeth natur genedlaethol” ar gyfer pobol ifanc 18 i 25 oed.

Byddai hyn yn cael pobol ifanc o gefndiroedd anodd mewn cymunedau gwledig ble mae gwaith yn brin ac yn cynnig blwyddyn allan “werdd” iddyn nhw.

Mae ffermio yn gyfrifol am 11% o nwyon tŷ gwydr gwledydd Prydain; mae’n effeithio ansawdd dŵr, y tir, ac yn niweidio cynefinoedd naturiol ac mae ffermwyr yn talu prisiau uchel am wrtaith ac yn cael llai o dal am eu cynnyrch wrth y giât.

Yn ôl yr adroddiad mae’r mwyafrif o ffermwyr yn teimlo y bydden nhw’n gallu neud newidiadau mawr mewn pump i ddeg mlynedd gyda’r gefnogaeth iawn.

Mae’n galw ar y llywodraeth i roi diwedd ar ohiriadau i benderfyniadau polisi ac yn gofyn am gynllun deng mlynedd i gael ffermio cynaliadwy erbyn Ionawr 2020.