Mae trenau yn Swydd Henffordd yn cael eu heffeithio fore heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 15) oherwydd fod tresbaswr wedi’i weld yn crwydro traciau yn yr ardal.

Fe gafodd yr heddlu eu galw toc wedi 6 o’r gloch yn dilyn adroddiadau pryderus am ddiogelwch y sawl sydd wedi cael ei weld rhwng Welwyn Garden City a Potters Bar.

Yn ôl Great Northern Rail, mae’r rheilffordd wedi’i hail-agor ers 6.17yb, ond y gallai trenau fod yn hwyr am rai oriau eto.

“Mae ganddon ni dimau yn gweithio er mwyn cael y gwasanaethau’n ôl i arfer, ond fe allai trenau gael eu canslo neu eu gohirio am beth amser eto,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.