Mae tîm criced Lloegr wedi ennill Cwpan y Byd yn Lord’s ar ôl curo Seland Newydd ar ôl i’r gêm fynd i belawd ychwanegol.

Dyma’r pedwerydd tro iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol, ond y tro cyntaf iddyn nhw ennill y gystadleuaeth.

Sgoriodd Seland Newydd 241 am wyth mewn 50 pelawd, wrth i Henry Nicholls daro 55 a Tom Latham 47.

Cipiodd Chris Woakes a Liam Plunkett dair wiced yr un.

Ar ôl i Loegr fod yn 86 am bedair wrth gwrso 242, tarodd Ben Stokes 84 heb fod allan mewn partneriaeth o 110 gyda Jos Buttler (59) i achub y Saeson, wrth iddyn nhw ddod yn gyfartal ar 241 cyn cael eu bowlio allan yn niwedd y batiad.

Roedd tair wiced yr un hefyd i Lockie Ferguson a Jimmy Neesham.

Pelawd ychwanegol

Gan fod y sgôr yn gyfartal, fe fu’n rhaid i’r ddau dîm wynebu pelawd ychwanegol

Ben Stokes a Jos Buttler gafodd eu henwebu gan Loegr, ac mi gafodd ei bowlio gan Trent Boult, ac fe sgorion nhw 15 oddi ar y chwe phelen.

Nod o 16 oedd gan Seland Newydd, felly, ond roedden nhw un rhediad yn brin wrth i Martin Guptill gael ei redeg allan gan Jason Roy oddi ar y belen olaf gan Jofra Archer.

Er bod y sgôr yn gyfartal unwaith eto, Lloegr gipiodd y tlws gan eu bod nhw wedi taro mwy o ergydion i’r ffin na’u gwrthwynebwyr.

Cafodd Ben Stokes ei enwi’n seren y gêm, a Kane Williamson, capten Seland Newydd, yn seren y gystadleuaeth.