Yn ôl adroddiadau o’r Alban, mae disgwyl y bydd yr achos llys yn erbyn Alex Salmond yn cychwyn ddiwedd mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Mae’r cyn-brif weinidog yn wynebu 14 o gyhuddiadau, sy’n cynnwys dau gyhuddiad o geisio treisio a naw cyhuddiad o ymosodiad rhywiol.

Mae’n gwadu’n llwyr bob un o’r honiadau yn ei erbyn.

Gwasanaethodd fel prif weinidog yr Alban o 2007 tan 2014, pryd yr ymddiswyddodd ar ôl y bleidlais yn erbyn annibyniaeth yn y refferendwm y flwyddyn honno.