Mae miloedd o aelodau’r Urdd Oren wedi bod yn gorymdeithio yng Ngogledd Iwerddon i ddathlu diwrnod pwysicaf tymor gorymdeithiau’r teyrngarwyr Protestanaidd.

Mae digwyddiadau’r deuddegfed o Orffennaf yn nodi dyddiad Brwydr Boyne yn 1690, pryd y gorchfygodd y Brenin Protestanaidd William y Brenin Catholig Iago II yn swydd Meath, sydd bellach yn y Weriniaeth.

Yn ôl Prif Feistr yr Urdd Oren, Edward Stevenson, fe fydd angen i’r Urdd fanteisio i’r eithaf ar ei ddylanwad gwleidyddol dros y misoedd nesaf.

“Mae her gwirioneddol inni ail-fywiogi gwleidyddiaeth unoliaethol fel grym etholiadol gyda neges gref a deniadol,” meddai.

“Mae’r sefydliad hwn wedi chwarae rhan bwysig yn etholiadau cenedlaethau a fu, a rhaid inni fod yn barod i fynd y filltir ychwanegol i helpu’r achos unoliaethol yn yr heriau sydd o’n blaenau.

“Rydym yn eglwys eang o ran barnau gwleidyddol – ond un peth y gall ein holl aelodau gytuno arno yw mai’r ffordd orau o warchod ein buddiannau yw fel dinasyddion Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.”

Er i wyth o bobl gael eu harestio, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Iwerddon, Mark Hamilton, ei fod yn falch fod y diwrnod yn heddychlon ar y cyfan.