Mae Heddlu Llundain wedi cychwyn ymchwiliad troseddol i’r modd y cafodd negeseuon cyfrinachol gan lysgennad Prydain yn America, Syr Kim Darroch, eu datgelu.

Fe fyddan nhw’n ymchwilio i amheuon fod y Ddeddf Cyfrinachau Cyhoeddus wedi cael ei thorri.

Meddai comisiynydd cynorthwyol Heddlu Llundain, Neil Basu:

“Dw i’n sicr fod difrod wedi ei achosi i gysylltiadau rhyngwladol y Deyrnas Unedig, a’i bod o fudd i’r cyhoedd i ddod â’r person neu bobl sy’n gyfrifol i gyfiawnder.

“Fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei adolygu ar bob cam er mwyn sicrhau bod yr ymchwiliad yn gymesur.”

Rhybuddiodd y cyfryngau hefyd y gallai unrhyw gyhoeddi pellach o negeseuon y llysgennad fod yn drosedd.

Daw’r penderfyniad ar ôl cyhoeddiad Syr Kim Darroch ddydd Mercher ei fod yn ymddiswyddo, ar ôl dweud bod ei sefyllfa’n “amhosibl” yn sgil datgelu sylwadau ganddo fod y Tŷ Gwyn yn llanast llwyr o dan Donald Trump.