Carcharu’r ffigwr asgell dde, Tommy Robinson

 

Tommy Robinson

Llun trwy Gomin Wicimedia

Mae’r ffigwr asgell dde eithafol, Tommy Robinson, wedi cael ei garcharu am gyflawni achos o ddirmyg llys.

Daw’r ddedfryd wedi i Stephen Yaxley-Lennon – ei enw go iawn – ffilmio dynion tu allan i Lys y Goron Leeds ym mis Mai’r llynedd.

Roedd y dynion yma wedi cael eu cyhuddo o ecsbloetio merched ifanc, ac aeth Stephen Yaxley-Lennon i greu’r fideo ohonyn nhw er gwaetha’ gwaharddiad adrodd.

Cafodd y fideo ei ffrydio yn fyw ar Facebook, mi barodd am awr a hanner, a chafodd ei wylio 250,000 o weithiau ar fore’r darlledu.

Manylion

Derbyniodd dedfryd naw mis o hyd gerbron yr Old Bailey ar dydd Iau (Gorffennaf 11)  ond gan ei fod eisoes wedi treulio amser dan glo mae ei ddedfryd wedi ei gwtogi i 19 wythnos.

Bydd yn gorfod treulio dim ond hanner o’r cyfnod yma yn y carchar cyn cael ei ryddhau.

Stephen Yaxley-Lennon yw sefydlydd yr English Defence League (EDL), grŵp asgell dde ac Islamaffobaidd Seisnig.

Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019