Mae Boris Johnson o dan y lach ar ôl i lysgennad gwledydd Prydain i’r Unol Daleithiau ymddiswyddo ar ôl i’w sylwadau beirniadol o arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, gael eu rhyddhau.

Dywedodd Syr Kim Darroch ei fod yn gadael ei swydd oherwydd ei bod yn “amhosib” iddo wneud ei swydd yn effeithiol ar ôl yr ymateb i’r cyngor preifat a roddodd i weinidogion.

Fe alwodd Donald Trump Kim Darroch yn “ddyn twp iawn” gan ddatgan na fydd y Tŷ Gwyn byth yn delio gydag ef eto.

Daeth y llysgennad o dan fwy o bwysau neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 9) ar ôl i Boris Johnson wrthod cymryd ei ochr yn ystod dadl am arweinyddiaeth y blaid Dorïaidd ar ITV.

Mae Gweinidog y Swyddfa Dramor, Syr Alan Duncan, yn cyhuddo Boris Johnson o “fradychu” Kim Darroch er mwyn atgyfnerthu ei uchelgais ei hun i ddod yn arweinydd nesaf y blaid.

“I rywun sydd eisiau arwain, heb sôn am uno, y wlad, roedd o’n esgeulustod ar ei ran. Yn y bôn, mae wedi bradychu’r llysgennad i wasanaethu ei ddiddordebau personol ei hun,” meddai Alan Duncan.

Dywed Syr Nigel Sheinwald, cyn-lysgennad i’r Unol Daleithiau, ei fod yn credu y gallai sylwadau Boris Johnson fod wedi cyfrannu at benderfyniad Kim Darroch i fynd.