Mae bron i hanner (49%) yr achosion o fwlio ar-lein yn dechrau wyneb yn wyneb, gyda’r mwyafrif o achosion, 78%, yn dechrau yn yr ysgol, yn ôl ymchwil.

Mae dros hanner pobol ifanc gwledydd Prydain wedi cael eu bwlio yn yr ysgol a 30% ar-lein hefyd, meddai’r astudiaeth gan y Diana Award.

Yn ôl 1,000 o bobol ifanc 11 i 16 oed gafodd eu holi, dywedodd 53% eu bod yn poeni am brofi bwlio ar lein.

I 67% ohonynt, mae siarad am broblemau bwlio ar lein yn haws gyda phobol yn agos i’w hoedran eu hunain yn hytrach na gydag athrawon hefyd, meddai’r ymchwil.

Daw cyhoeddiad yr ymchwil wrth i Facebook gynnal digwyddiad yn canolbwyntio ar fwlio o fewn yr ysgol heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 9) gyda’r Diana Award.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Wright a Nicola Mendelsohn, is-lywydd Facebook yn Ewrop, Affrica a’r Dwyrain Canol, gymryd rhan yn y drafodaeth.