Mae arweinydd y Blaid Lafur yn galw ar arweinydd nesaf y Torïaid i gynnal ail refferendwm cyn tynnu gwledydd Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Jeremy Corbyn hefyd fe fydd ei blaid yn ymgyrchu i aros ynddi wrth i wledydd Prydain agosau at y dyddiad ymadael ar Hydref 31.

Yn dilyn cyfarfod y cabinet cysgodol yn Westminster, mae’n dweud y dylai unrhyw un sydd yn ennill ras arweinyddiaeth y Torïaid – a Prif Weinidog nesaf gwledydd Prydain – fod yn hyderus i roi’r cytundeb, neu dim cytundeb, sy’n cael ei gynnig i Frwsel, o flaen y cyhoedd.

Daw’r sylw gan Jeremy Corbyn yn dilyn wythnosau o ddadlau o fewn y Blaid Lafur dros ei safle ar Brexit.

Dim ond mewn sefyllfaoedd penodol oedd y blaid wedi dangos ei gefnogaeth i ail refferendwm ar Brexit ac roedd llawer yn credu fod hyn wedi esbonio canlyniadau gwael y blaid yn yr etholiadau Ewropeaidd.

“Dylai pwy bynnag sy’n dod yn brif weinidog newydd fod â’r hyder i roi eu cytundeb, neu ddim cytundeb, yn ôl i’r bobol mewn pleidlais gyhoeddus,” meddai Jeremy Corbyn.

“Yn yr amgylchiadau hynny, rwyf am ei gwneud yn glir y byddai Llafur yn ymgyrchu dros barhau yn erbyn Brexit heb gytundeb neu Dorïaidd nad yw’n diogelu’r economi a swyddi.”

Mae’r ddau olaf yn ras arweinyddiaeth y Torïaid, Boris Johnson a Jeremy Hunt, wedi dweud y bydden nhw’n edrych i ail-drafod cytundeb ymadael gwledydd Prydain, ond eu bod yn barod i adael heb gytundeb os yn methu.