Fe allai British Airways wynebu dirwy o £183m yn dilyn achos o hacio cyfrifiaduron pan gafodd manylion personol eu cwsmeriaid eu dwyn.

Roedd manylion personol tua hanner miliwn o deithwyr dan fygythiad yn ystod y digwyddiad, yn ôl Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Dywedodd llefarydd ar ran yr ICO mai’r ddirwy fyddai’r mwyaf i gael ei rhoi a’r cyntaf i’w gwneud yn gyhoeddus ers i reolau newydd ddod i rym.

Mae cadeirydd a phrif weithredwr y cwmni hedfan Alex Cruz, wedi dweud ei fod wedi’i “synnu a siomi” gan fwriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Ac mae Willie Walsh, pennaeth cwmni International Airlines Group, sy’n rhan o British Airways, wedi dweud y bydd yn “amddiffyn” y cwmni gan gynnwys apelio yn erbyn y bwriad.

Mae’r ICO wedi awgrymu ei fod yn bwriadu rhoi dirwy o £183.4m i British Airways sy’n cynrychioli 1.5% o drosiant blynyddol y cwmni hedfan.

Cafodd manylion am yr achos o hacio eu datgelu ar Fedi 6 a Hydref 25 y llynedd.

Roedd manylion personol cwsmeriaid ynghyd a gwybodaeth ariannol ei ddwyn rhwng Awst 21 2018 a Medi 5 2018 o wefan ba.com ac ap y cwmni.

Dywedodd British Airways ar y pryd bod manylion 380,000 o gardiau talu wedi cael eu dwyn.