Mae enw un o ddynion busnes cyfoethocaf gwledydd Prydain yn cael aros yn gyfrinachol, er bod dwy ddynes wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw.

Mae’r Times yn adrodd bod y dyn wedi dod i gytundeb cyn bod tribiwnlys yn cael ei gynnal, a bod y setliad yn golygu bod rhaid iddyn nhw dynnu’r cyhuddiadau’n ôl a llofnodi dogfennau cyfrinachedd.

Roedd un o’r ddwy yn honni iddi fod yn destun ymosodiad rhyw ac wedi cael ei threisio yn ei cheg yn swyddfa’r dyn busnes.

Dywedodd y ddynes arall iddo gyffwrdd â hi mewn modd rhywiol yn ei gartref.

Rhoddodd nifer o gyflogeion eraill dystiolaeth i gefnogi’r ddwy ddynes.

Ond mae’r dyn busnes yn gwadu’r honiadau.

Fis diwethaf, roedd gwleidyddion yn feirniadol o’r ffordd y mae dogfennau cyfrinachedd yn cael eu defnyddio er mwyn cadw enwau troseddwyr honedig yn gyfrinachol.