Mae adroddiadau bod dros 1,000 o bleidleiswyr y Blaid Geidwadol wedi derbyn mwy nag un papur pleidleisio ar gyfer etholiad arweinyddol y blaid.

Fe allai’r broblem fod wedi codi o ganlyniad i bobol sydd wedi cofrestru gartref ac yn y gweithle, a’r rheiny sydd wedi newid eu henwau’n gyfreithlon.

Mae’r blaid yn pwysleisio y bydd unrhyw un sy’n pleidleisio mwy nag unwaith yn cael ei wahardd o’r blaid.

“Mae’n nodi’n glir iawn ar y papur pleidleisio mai unwaith yn unig y cewch chi bleidleisio,” meddai Syr Patrick McLoughlin, cadeirydd ymgyrch Jeremy Hunt wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Dw i’n disgwyl i aelodau’r Ceidwdadwyr ddilyn hynny.

“All e ddim bod yn fwy clir, mae yno ar y papur pleidleisio yn dweud mai unwaith yn unig y cewch chi bleidleisio ar yr un achlysur, a dw i’n disgwyl i bobol wneud hynny.”

‘Mynd i’r afael â’r broblem’

Mae Iain Duncan Smith, cadeirydd ymgyrch Boris Johnson, yn dweud bod angen i’r Blaid Geidwadol fynd i’r afael â’r broblem.

“Mae’n amlwg fod yna broblem fan hyn, dw i’n derbyn hynny,” meddai ar yr un rhaglen.

“Mae’r mater hwn yn codi ym mhob etholiad, lle mae pobol yn cael eu cofrestru ar wahân, ac mae’n glir iawn ar y papurau pleidleisio… na chewch chi bleidleisio mwy nag unwaith.

“Ond mae’n glir hefyd fod rhaid i’r Blaid Geidwadol barhau i weithio ac edrych ar sut i ddatrys hyn yn iawn fel eu bod yn adnabod pwy ydi pwy.”