Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn ymchwilio i ymladd “di-gynsail” rhwng cefnogwyr criced yn ystod gêm yng Nghwpan y Byd rhwng Pacistan ac Affganistan yng nghae Headingley yn Leeds.

Cafodd nifer o bobol eu harestio ddydd Sadwrn (Mehefin 29), yn dilyn adroddiadau bod nifer o bobol wedi dringo dros wal cyn ymosod ar stiwardiaid, a bod un person wedi cael mynediad i’r cae.

Mae deunydd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cefnogwyr yn taflu gatiau metel at ei gilydd, ac eraill yn bwrw a chicio’i gilydd.

Mae hefyd yn dangos sawl ymosodiad ar yr heddlu, sy’n apelio am dystion, wrth iddyn nhw geisio adnabod y rhai oedd yn gyfrifol am y digwyddiad.

Cyhuddiadau

Cafodd yr heddlu eu galw i’r cae toc cyn canol dydd, ddydd Sadwrn. Cafodd dau ddyn 22 oed o Lundain eu harestio ar amheuaeth o ffrwgwd.

Cafodd un ei ryddhau heb gyhuddiad, ac mae’r llall wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.

Ar ddiwedd y gêm, cafodd llanc 17 oed o Birmingham ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl cael mynediad i’r cae, ond fe gafodd ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

‘Digwyddiad prin’

“Tra bod y rhain yn ddigwyddiadau unigol, oedd yn cynnwys nifer gymharol fach o bobol oedd yn mynychu’r digwyddiad, roedd y golygfeydd yr oedden ni’n dyst iddyn nhw’n gwbwl ddi-gynsail mewn gêm griced,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Bydd y mwyafrif sy’n cadw at y gyfraith wedi poeni, yn gwbl ddealladwy, ynghylch yr hyn oedd wedi digwydd, ac mae angen i ni anfon neges glir iawn fod ymddygiad o’r fath yn gwbwl annerbyniol ac na fydd yn cael ei oddef.”

Dywed fod ffrwgwd mewn gêm griced yn ddigwyddiad eithaf prin, a bod y gêm wedi cael ei hasesu fel un risg isel, ac nad oedd angen llawer o blismyn yno o ganlyniad.

Mae’r heddlu wrthi’n adolygu eu trefniadau ar gyfer y dyfodol, ac mae disgwyl mwy o heddlu yn y cae yr wythnos hon.

Mae’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) yn dweud eu bod nhw’n cefnogi ymchwiliad yr heddlu’n llawn.