Mae aelod seneddol Llafur yn galw am ymchwiliad i sylwadau am gyflwr iechyd Jeremy Corbyn.

Yn ôl adroddiadau, mae gweision sifil yn awgrymu nad yw’n gorfforol nac yn feddyliol iach i fod yn ei waith.

Ond mae Len McCluskey, yr undebwr, yn wfftio’r stori fel “newyddion ffug”, ac mae’n dweud y dylai newyddiadurwyr “deimlo cywilydd”.

Mae’n dweud bod y stori’n ymgais i “danseilio” Jeremy Corbyn a’i allu i fod yn arweinydd.

Mae Jon Trickett, gweinidog cysgodol y Swyddfa Gabinet, wedi ysgrifennu at ei wrthwynebydd yn Llywodraeth Prydain a phennaeth y Gwasanaeth Sifil, Mark Sedwill, i alw am ymchwiliad.

Mae’n dweud bod yr adroddiad yn y Times ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 29) yn “hollol ddi-angen ac yn ymyrraeth wleidyddol anghyfansoddiadol sydd â goblygiadau brawychus i’n system ddemocrataidd”.

Mae wedi galw am gyfarfod i drafod y mater.