Mae tad i saith yn mynd i’r carchar am bum mlynedd am ladd merch ei gefnder ar ôl gyrru’n beryglus.
Roedd Martin McGuire, 39, yn gyrru ar gyflymder o 51 milltir yr awr mewn ardal 30 pan darodd Abbie McLaren, 12, wrth iddi groesi’r lôn ar ôl dod oddi ar fws yn Motherwell yn yr Alban ar Chwefror 12.
Cafodd y ferch ei thaflu ar gar oedd wedi parcio gan achosi nifer o anafiadau difrifol. Bu farw yn yr ysbyty’r noson honno.
Roedd tad Abbie McLaren, cefnder Martin McGuire, yn eistedd yn y sedd flaen ar adeg y gwrthdrawiad.
Clywodd y llys fod Martin McGuire wedi bod yn “brolio” am allu ei gar ar y diwrnod.
Fe gyfaddefodd ei fod wedi gyrru’n beryglus, ac wedi gyrru heb yswiriant na thrwydded, pan ymddangosodd yn Uchel Lys Glasgow fis diwethaf.
Derbyniodd ddedfryd pum mlynedd o garchar a’i wahardd rhag gyrru am wyth blynedd a hanner yn Uchel Lys Caeredin heddiw (Dydd Gwener, Mehefin 28).