Ers 2016 bu cynnydd o 83% yn nifer swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn sydd i ffwrdd o’u gwaith oherwydd problemau iechyd meddwl.

Yn 2016, bu rhaid i 60 o swyddogion gymryd amser i ffwrdd oherwydd iechyd meddwl.

Ond rhwng Ebrill 2018 a Chwefror 2019 neidiodd y ffigwr i 110.

Fe gynyddodd nifer y diwrnodau gafodd eu colli oherwydd salwch o 6,157 diwrnod yn 2016 i 9,385 yn y deg mis i Chwefror 2019. Dyma gynnydd o 52%.

Heblaw am Heddlu’r Metropolitan, y Weinyddiaeth Amddiffyn sydd â’r nifer fwyaf o heddlu arfog mewn unrhyw lu yng ngwledydd Prydain.

Mae’n amddiffyn safleoedd y fyddin, asedau sy’n cynnwys taflegrau Trident a phobol bwysig.

Fe fydd cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu Amddiffyn, Eamon Keating, yn trafod y cynnydd sylweddol mewn swyddogion sy’n cymryd amser i ffwrdd oherwydd straen, iselder, pryder, anhwylder a thrawma yn eu cynhadledd flynyddol heddiw.