Cynyddu mae’r pwysau ar Boris Johnson i fynd benben â Jeremy Hunt mewn dadl deledu fyw ar Sky News, wrth i’r broses o ddewis olynydd Theresa May fynd rhagddi.

Bydd y ddau yn mynd benben mewn dadl deledu ar ITV ar Orffennaf 9, ond erbyn hynny bydd llawer o aelodau’r blaid Geidwadol wedi bwrw’u pleidlais. Ac mae Jeremy Hunt yn gofidio am hynny.

“Dw i’n pryderu bod Boris Johnson yn bwriadu gwastraffu amser,” meddai Jeremy Hunt, “felly pan fydd y ddadl yn digwydd bydd y pleidleisiau eisoes wedi’u cyfri.

“Dyw hyn ddim yn iawn. Ac mae’n amharchus i aelodau ein plaid sydd wedi gorfod aros 14 blynedd er mwyn medru ethol arweinydd newydd mewn modd democrataidd.”

Mae Jeremy Hunt eisiau i ddadl deledu gael ei chynnal yr wythnos nesaf, cyn i’r aelodau dderbyn eu papurau pleidleisio – “boed Boris Johnson yn cymryd rhan ai peidio”.

Boris yn cuddio?

Mae’r ddau Aelod Seneddol yn cystadlu am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol, a gwnaeth y ddau gymryd rhan yn nadl deledu’r BBC yr wythnos ddiwethaf.

Ond wnaeth Boris Johnson beidio â chymryd rhan yn nadl deledu Channel 4 bythefnos yn ôl, ac mae wedi gwrthod cymryd rhan yn nadl deledu Sky News yr wythnos hon.