Mae’r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 25) y bydd arweinydd newydd y blaid yn cael ei gyhoeddi ar Orffennaf 23.

Boris Johnson a Jeremy Hunt yw’r ddau sydd ar ôl yn y ras i fod yn arweinydd nesaf y blaid a Phrif Weinidog newydd gwledydd Prydain a bydd pleidlais bost o’r 160,000 o aelodau  yn penderfynu pwy fydd yn olynu Theresa May.

Fe fydd pleidlais yr aelodau yn cau ar Orffennaf 22, cyn i’r cyhoeddiad gael ei wneud y diwrnod wedyn.