Fe all Brexit heb gytundeb gostio diwydiant geir gwledydd Prydain hyd at £70m y diwrnod, mae ymchwil newydd yn datgan.

Mae Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron (SMMT) wedi rhybuddio y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb fod yn “ergyd” i allu’r sector i gystadlu gyda gweddill y byd.

Yn ôl Adroddiad Masnach Foduron gwledydd Prydain 2019 gan y Gymdeithas fe all oedi mewn cynhyrchu ychwanegu costau o hyd at £50,000 y funud – cyfanswm o £70m y dydd ar ei waethaf.

Mae’n dweud hefyd y byddai tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn dod i gyfanswm o £4.5bn y flwyddyn ar gyfer masnachu ceir.

Fe fyddai dirywiad i’r diwydiant ceir yn golygu y byddai gwledydd Prydain yn colli ei statws fel degfed allforiwr mwyaf nwyddau’r byd, gan ddisgyn i 14eg safle tu ôl i Wlad Belg, Canada, Mecsico a Rwsia.

Mae Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron yn galw ar y Prif Weinidog nesaf i sicrhau mai cael cytundeb Brexit yw ei flaenoriaeth.