Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn dweud bod perthynas y wlad gyda gweddill gwledydd Prydain “wedi chwalu” oherwydd Brexit.

Yn ôl arweinydd yr SNP tydi hi dal heb glywed gan yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr – Boris Johnson a Jeremy Hunt – sut y bydden nhw’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Nicola Sturgeon yn dweud bod hyn wedi gadael ei gwlad mewn sefyllfa o “ddiffyg democratiaeth waethaf” ers degawdau.

Dywedodd hyn wrth siarad yng nghynhadledd Cymdeithas y Gyfraith yr Alban i nodi ugain mlynedd o ddatganoli, gan nodi sut mae gweithredoedd Llywodraeth gwledydd Prydain wedi cael niwed enfawr ar gonfensiynau cyfansoddiadol ers refferendwm Brexit.

“Gwaethygu’r rhaniad”

“Mae’r Torïaid yn ceisio gwaethygu’r rhaniad yn hytrach na dod a phobol at ei gilydd,” yn dilyn y refferendwm, meddai Nicola Sturgeon.

“Mae Llywodraeth gwledydd Prydain wedi ceisio dehongli’r canlyniad yn y ffordd anoddaf bosibl a thynnwyd llinellau coch nad oedd yn rhaid eu tynnu.”

Pwysleisiodd Nicola Sturgeon mai’r cyfeiriad gorau yw cael annibyniaeth i’r Alban, gan wneud “partneriaeth wirioneddol gyfartal” ar yr ynys.