Mae dadl deledu rhwng y ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr wedi cael ei chanslo oherwydd bod Boris Johnson yn gwrthod ymddangos.

Roedd Sky News wedi gwahodd Boris Johnson a Jeremy Hunt i gymryd rhan yn y ddadl nos Fawrth (Mehefin 25) a fyddai wedi cael ei chynnal gan y cyflwynydd Kay Burley.

Mae Sky nawr wedi gwneud gwahoddiad arall i’r ddau i gymryd rhan mewn dadl arall ar Orffennaf 1.

Oherwydd mai dim ond dau sydd ar ôl yn y ras mi fyddai hi wedi bod yn amhosib i Boris Johnson adael ei sedd yn wag fel y gwnaed yn nadl Channel 4 yn gynharach yn y ras.

“Rydyn ni’n dal yn barod i gynnal dadl nos fory os yw’r ddau ymgeisydd ar gael,” meddai llefarydd Sky News.

“Heb y ddau ymgeisydd, ni fydd dadl fory yn cymryd lle.”

Defnyddiodd Jeremy Hunt golofn yn The Times i annog Boris Johnson i gymryd rhan yn y ddadl ddydd Mawrth.