Fe fyddai llywodraeth o dan arweinyddiaeth Boris Johnson yn dymchwel yn gyflym wrth wynebu cwestiynau allweddol am Brexit, rhybuddiodd ei wrthwynebydd yn y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, Jeremy Hunt.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, fe fyddai’r grŵp “bregus” o gefnogwyr sydd gan Boris Johnson yn dymchwel os yw’n parhau i gefnogi Brexit heb gytundeb.

Daeth ei rybudd wrth i’r gweinidog amddiffyn Tobias Ellwood ddweud bod tua dwsin o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn barod i gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth er mwyn atal Brexit heb gytundeb.

Dywedodd Jeremy Hunt bod sylwadau Tobias Ellwood yn tanlinellu’r risg o fwrw mlaen i adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn Hydref 31 heb fwyafrif yn y Senedd. Mae Boris Johnson, y ceffyl blaen yn y ras, eisoes wedi rhoi addewid y bydd yn pwyso i adael yr UE erbyn diwedd mis Hydref hyd yn oed os ydy hynny’n golygu gadael heb gytundeb.

Os yw’r llywodraeth yn dymchwel, fe fydd “Jeremy Corbyn yn Rhif 10 a bydd dim Brexit o gwbl,” rhybuddiodd Jeremy Hunt ar raglen Good Morning Britain ar ITV.

Mae hefyd wedi beirniadu ei wrthwynebydd am wrthod cymryd rhan mewn dadleuon teledu gan ddweud ei fod yn “hynod o amharchus” a bod angen iddo ennill ymddiriedaeth pleidleiswyr.

Yn y cyfamser mae Boris Johnson wedi bod dan bwysau i esbonio pam fod yr heddlu wedi cael eu galw i’w gartref yn dilyn adroddiadau o ffrae gyda’i bartner Carrie Symonds.