Mae dyn sy’n gwrthod cofrestru genedigaeth ei fab wedi colli achos yn yr Uchel Lys.

Mae’r dyn, nad oes modd ei enwi, yn dweud nad yw e am i’r Wladwriaeth reoli ei fab.

Fe wnaeth gwasanaethau cymdeithasol lleol y rhieni, Tower Hamlets yn Llundain, droi at y llysoedd yn dilyn pryderon am rieni’r bachgen, gan ddweud eu bod nhw’n torri’r gyfraith drwy beidio â chofrestru ei enedigaeth.

Mae’r llys wedi rhoi’r hawl i’r awdurdod lleol weithredu fel “rhiant sefydliadol”, sy’n golygu y gallan nhw gofrestru ei enedigaeth.

Mae’r bachgen yng ngofal yr awdurdodau dros dro tra bod gallu’r rhieni i ofalu am y bachgen yn cael ei asesu.

Er bod y tad yn gwrthwynebu cofrestru ei enedigaeth, roedd ei fam yn ddigon bodlon i’r awdurdod lleol ei gofrestru ar eu rhan.

Y gyfraith

Yn ôl Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, mae’n rhaid cofrestru genedigaeth plentyn o fewn 42 diwrnod.

Yn yr achos hwn, aeth 42 diwrnod heibio heb fod genedigaeth y bachgen wedi’i chofrestru.

Mae’r Wladwriaeth yn gofyn bod genedigaethau’n cael eu cofrestru er mwyn i bobol dderbyn eu hawliau fel dinasyddion gwledydd Prydain.