Dylai Boris Johnson egluro’r ffrae â’i bartner Carrie Symonds, a arweiniodd at gymydog yn galw’r heddlu, yn ôl Dr Liam Fox, y gweinidog Ceidwadol.

Dywed yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol y byddai’n “haws” pe bai’r ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth yn dweud beth yn union ddigwyddodd yn y fflat yn Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r fflat yn dilyn adroddiadau o ffrae a “chlec”.

Mae Dr Liam Fox yn cefnogi Jeremy Hunt, gwrthwynebydd Boris Johnson, yn y ras i arwain y Ceidwadwyr.

“Mae bob amser yn haws jyst rhoi eglurhad,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Mae’n anochel fod yna ffocws ar fywydau preifat. Dydy hynny ddim yn fy mhoeni o gwbl.

“Yr hyn sy’n fy mhoeni yw’r materion.”

Llafur yn troi ar Boris Johnson

Daw sylwadau Dr Liam Fox ar ôl i Andrew Gwynne, llefarydd cymunedau Llafur, ddweud bod Boris Johnson yn ymgeisydd “cwbl anaddas” ar gyfer swydd y prif weinidog.

“Ar un ystyr, wrth gwrs ei fod yn fater preifat, ond pan ydych chi’n ymgeisio am swydd gyhoeddus, pan ydych chi am fod yn brif weinidog y DU, yna mae’r materion hyn er lles y cyhoedd,” meddai Andrew Gwynne wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky.

“Dw i’n teimlo ers tro bod Boris Johnson yn anaddas fel prif weinidog y wlad hon.

“Dw i wedi cael sawl ffrae â Boris – yn ddrwg-enwog iawn, bu bron i fi gael fy nhaclo i’r ddaear gan y dyn hwn yn ystod etholiad cyffredinol 2017.”

Gwrthod egluro

Mae Boris Johnson yn gwrthod egluro’r hyn oedd wedi digwydd yn ystod y ffrae â’i bartner.

Ac fe wrthododd eto yn ystod hystings yn Birmingham ddoe, i fonllef o gymeradwyaeth gan aelodau ei blaid ei hun.

Mae arolwg ers y digwyddiad yn awgrymu bod Boris Johnson yn llai poblogaidd ymhlith aelodau’r blaid erbyn hyn, a’i fod e’n llai poblogaidd na Jeremy Hunt ymhlith etholwyr cyffredin.

Wrth roi pwysau ar ei wrthwynebydd, mae Jeremy Hunt bellach yn dweud bod “cymeriad” y ddau yn destun “craffu” yn ystod wythnosau ola’r ras am yr arweinyddiaeth, ac y gall hynny fod yn “anghyfforddus”.