Byddai’r mwyafrif o Albanwyr yn pleidleisio dros annibyniaeth pe bai Boris Johnson yn ennill y ras i fod yn brif weinidog Prydain.
Mae’r ras rhyngddo fe a Jeremy Hunt i olynu Theresa May wedi dechrau’n swyddogol yn dilyn hystings yn Birmingham neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 22).
Ar hyn o bryd, 49% o Albanwyr sydd o blaid annibyniaeth, yn ôl arolwg gan Panelbase.
Ond mae 53% yn dweud y bydden nhw am adael Prydain pe bai Boris Johnson yn cael ei ethol yn arweinydd ac yn brif weinidog.
Cafodd yr arolwg ei gynnal ar ran y Sunday Times.
Poblogrwydd
Yn ôl yr arolwg, mae Jeremy Hunt a Nigel Farage (-24 yr un) ychydig yn fwy poblogaidd na Boris Johnson (-37 o bwyntiau) wrth ystyried pa mor addas ydyn nhw i fod yn brif weinidog.
Mae poblogrwydd Nicola Sturgeon yn niwtral, tra bod Ruth Davidson, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban ar -1.
-44 yw sgôr poblogrwydd Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, yn yr Alban.
Yn dilyn yr arolwg, mae Ceidwadwyr yr Alban wedi ategu eu gwrthwynebiad i fod yn wlad annibynnol.