Mae cymydog Boris Johnson wedi amddiffyn ei benderfyniad i droi at yr heddlu a’r wasg genedlaethol yn dilyn ffrae rhwng yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol a’i bartner Carrie Symonds.

Mae’r Guardian yn dweud eu bod nhw wedi derbyn recordiad o’r ffrae yn y fflat yn Llundain, lle mae modd clywed Boris Johnson yn dweud “dere oddi ar fy ff**** laptop” cyn bod yna glec fawr.

Cafodd ei bartner ei chlywed yn dweud wrtho am ddod oddi arni ac am adael ei fflat, meddai’r papur newydd.

Mae heddlu Scotland Yard wedi cadarnhau iddyn nhw dderbyn galwad yn mynegi pryder am les dynes.

Fe ddaeth i’r amlwg fod Tom Penn, y cymydog, wedi recordio’r digwyddiad.

Heddlu’n ymateb

“Ar ôl gwaedd uchel a chlec, ac yna tawelwch, rhedais i fyny’r grisiau, ac ynghyd â ‘ngwraig, fe gytunon ni y dylen ni gadw llygad ar ein cymdogion,” meddai Tom Penn.

“Cnociais i dair gwaith ar eu drws ffrynt, ond doedd dim ateb.

“Es i’n ôl i fyny’r grisiau i fy fflat, ac fe gytunon ni y dylen ni ffonio’r heddlu.

“Cyrhaeddodd yr heddlu o fewn pum munud.

“Cafodd ein galwad ei gwneud yn ddienw, a chafodd yr un enw ei roi i’r heddlu.

“Fe wnaethon nhw ffonio’n ôl maes o law i ddiolch i ni am ei riportio, ac i roi gwybod i ni na chafodd unrhyw un ei anafu.”

Mae’n pwysleisio mai ei “unig bryder” oedd diogelwch a lles Boris Johnson a Carrie Symonds.

Troi at y wasg

Mae Tom Penn hefyd yn amddiffyn ei benderfyniad i droi at y wasg pan ddaeth i’r amlwg mai Boris Johnson a Carrie Symonds oedd y ddau oedd yn ffraeo.

Mae’n dweud bod y digwyddiad “o ddiddordeb i’r cyhoedd”, a’i fod yn “rhesymol” i ddarpar brif weinidog fod yn “atebol am ei eiriau, ei weithredoedd a’i ymddygiad”.

Ond mae’n pwysleisio mai ei unig ymwneud â’r byd gwleidyddol yw ei fod e wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n dweud bod y sylw a gafodd e a’i bartner ers y digwyddiad yn “amhleserus, bisâr a ffug”, a bod y cyfan wedi eu “hypsetio”.

Mae’n gofyn am “lonydd” ac am droi’r sylw ar “y sawl sydd wedi dewis mynd am rym yn llygaid y cyhoedd”.

Mae Boris Johnson yn un o ddau ymgeisydd, ynghyd â Jeremy Hunt, am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol a swydd prif weinidog Prydain.