Mae Hilary Benn, yr aelod seneddol Llafur, yn galw ar ei blaid i fod yn “groch” o blaid ail refferendwm Brexit.

Mae’n dweud bod y sefyllfa bresennol yn “llanast llwyr”.

Daeth ei sylwadau wrth iddo annerch cynulleidfa yn Leeds.

“Dw i erioed wedi siarad ar lwyfan Pleidlais y Bobol o’r blaen, ond dw innau hefyd wedi dod i’r casgliad mai’r unig ffordd allan o’r llanast hwn yw rhoi’r gair terfynol i’r bobol,” meddai.

“Felly gadewch i ni ddweud yn glir, gadewch i’r blaid y gwnes i ymuno â hi yn 17 oed ei dweud hi’n groch – rydyn ni eisiau Pleidlais y Bobol.”

‘Addewidion ffals’

Dair blynedd namyn diwrnod ers y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, mae Hilary Benn yn cyhuddo’r ymgyrch tros adael o roi addewidion ffug i bleidleiswyr.

Mae lle i gredu bod mwy na 1,000 o bobol wedi ymgynnull i wrando arno’n siarad.

Ac fe ddywedodd fod yr ymgyrch tros adael yn “ffantasi” ac nad yw’r hyn a gafodd ei addo yn 2016 “yn bod”.

“Allwch chi ddim cael yr holl sofraniaeth a’r holl fuddiannau economaidd.

“Mae yna ddewisiadau y mae’n rhaid i ni eu gwneud.

“Doedd e ddim yn wir, dydy e ddim yn wir.

“Bydd Brexit yn ein gwneud ni’n dlotach. Bydd Brexit yn gwneud y gogledd yn dlotach.

“Pwy bleidleisiodd dros hynny?”

Mae’r ymgyrch yn bwriadu cynnal cyfres o ralïau mewn 15 o drefi a dinasoedd, gan arwain at orymdaith yn Llundain ar Hydref 12.