Fe wnaeth cymydog Boris Johnson alw’r heddlu i’w gartref fore dydd Gwener yn dilyn adroddiadau o ffrae rhyngddo fe a’i bartner Carrie Symonds.

Mae’r digwyddiad wedi codi cwestiynau am ei fywyd preifat wrth iddo herio Jeremy Hunt am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol ac i fod yn brif weinidog nesaf Prydain.

Dywedodd cymdogion fod yna ffrae swnllyd rhyngddo fe a’i bartner, a bod Carrie Symonds wedi dweud wrtho am godi oddi arni ac i adael y fflat, yn ôl y Guardian.

Mae’r papur newydd yn dweud eu bod nhw wedi clywed recordiad, lle mae Boris Johnson yn dweud wrth ei bartner am “ddod oddi ar fy ff**** laptop” cyn bod yna glec fawr, a Carrie Symonds yn cyhuddo’i phartner o dywallt gwin ar y soffa.

Dywed y cymydog iddi glywed platiau a gwydrau’n cael eu torri, a bod gwrthrychau’n cael eu taflu o gwmpas.

Dywed cymydog arall fod y digwyddiad yn “eithaf gwael” a’i fod wedi para hyd at bum munud.

Heddlu

Dywed Heddlu Scotland Yard iddyn nhw gael eu galw gan gymydog oedd yn gofidio am les dynes am 12.24yb.

Ond maen nhw’n dweud eu bod yn fodlon na chafodd unrhyw drosedd ei chyflawni.

Mae tîm Boris Johnson yn gwrthod gwneud sylw am y mater.

Daeth cadarnhad yn yr hydref fod Boris Johnson a’i wraig Marina Wheeler wedi gwahanu yn dilyn adroddiadau am ei berthynas e â dynes arall.

Cyfnod cythryblus

Daw’r adroddiadau am y ffrae ar ddiwedd wythnos gythryblus i’r Ceidwadwyr.

Daeth cadarnhad ddoe (dydd Gwener) fod Chreidis Davies, aelod seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, wedi cael ei ddad-ddewis yn sgil ei gael yn euog o ffugio treuliau.

Ac fe all ymchwiliad gael ei gynnal yn dilyn sylwadau bod Antoinette Sandbach yn “warth”.

Yn y cyfamser, mae Mark Field wedi cael ei wahardd dros dro o’i swydd yn weinidog yn y Swyddfa Dramor ar ôl iddo ddefnyddio grym i symud protestwraig o ginio.