Michael Gove, Jeremy Hunt a Boris Johnson yw’r tri ymgeisydd sydd ar ôl yn y ras i arwain y Torïaid wedi’r bleidlais ddiweddaraf.

Mae Sajid Javid allan ar ôl dod yn olaf o’r pedwar gyda 34 o bleidleisiau.

Llwyddodd Michael Gove i ddod yn ail i Boris Johnson ar ôl curo Jeremy Hunt o 61 pleidlais i 59.

Mae’r cyfan yn argoeli am bleidlais agos rhwng y ddau yn y rownd nesaf y pnawn yma i weld pwy fydd yn cael herio Boris Johnson ymysg aelodau’r blaid ar lawr gwlad.

Cynyddodd pleidlais Boris unwaith eto i 157 – sydd dros hanner nifer yr holl ASau Ceidwadol.

Roedd dau AS wedi difetha eu pleidleisiau.