Cafodd Joanna Yates ei thagu gan gymydog, cyn iddo gwyno wrth ei gariad mewn neges destun ei fod wedi “diflasu”, clywodd llys heddiw.

Oriau’n unig wedi iddo ladd y ferch 25 oed, anfonodd Vincent Tabak neges destun at ei gariad yn dweud ei fod wedi “diflasu”, meddai’r erlyniad yn Llys y Goron Bryste.

Yn ystod y diwrnodau wedi iddo ladd y  pensaer, bu Vincent Tabak, 33, yn mynd i bartïon a chiniawau, yn ôl yr erlyniad.

Dywedodd yr erlynydd Nigel Lickley QC, fod y  peirianydd o’r Iseldiroedd eisoes wedi cyfaddef  i ddynladdiad Joanna Yates.

Dywedodd Nigel Lickley wrth y rheithgor ei fod “wedi llwyddo i gamarwain a cham-argyhoeddi eraill, ac i guddio’i deimladau mewnol.”

“Roedd e mewn rheolaeth llwyr, ac roedd e’n gwybod beth oedd e’n ei wneud.”

Mae cofnodion ffôn yn dangos ei fod wedi cysylltu â’i gariad yn dweud ei fod wedi “diflasu” yn yr oriau wedi iddo ladd Joanna Yates, meddai Nigel Lickley.

Mae Vincent Tabak yn gwadu lladd Joanna Yates yn fwriadol.